Cegin y Neuadd
Mae’r gegin yn un hwylus gyda digon o le ynddi, wedi’i lleoli wrth ymyl prif ystafell y neuadd. Mae’r adnoddau’n cynnwys llond cypyrddau o lestri, tebotiau gwahanol faint, dau decell a boilar i ferwi dŵr, gyda digon o hambyrddau wrth law. Mae hefyd agoriad gweini o’r gegin i’r brif ystafell.
Nid yw Rheolau Iechyd a Diogelwch y Neuadd yn caniatau coginio bwyd yn y gegin, ond yn hytrach dim ond gweini bwyd sydd wedi’i goginio’n barod. Ond mae modd defnyddio’r popty trydan, neu’r popty ping, i gynhesu bwyd.
Nid yw’r Rheolau ychwaith yn caniatau mwy na 6 oedolyn i fod yn y gegin ar yr un pryd, ac ni chaniateir plant yn y gegin o gwbl.
Gwneir archwiliad blynyddol, gan drydanwr trwyddedig, ar holl offer trydanol y gegin.