Agorwyd y neuadd bresennol yn Ebrill 2002. Yr hen ysgol gynradd, dros y ffordd, oedd ein hunig neuadd cyn hynny. Codwyd y neuadd newydd drwy nawdd y Loteri Genedlaethol, rhoddion hael gan ffrindiau, gweithgareddau di-ri i godi arian a gwaith di-flino rhai o aelodau’r pwyllgor rheoli ar y pryd i sicrhau llwyddiant y fenter.
Yr ydym yn falch o gael dweud fod gennym neuadd hwylus iawn ar gyfer llawer o weithgareddau. Neuadd ddelfrydol i gynnal cyngherddau, gydag acoustics ein Neuadd Fawr ymhlith y gorau meddai’r artistiaid fu’n diddori yma. Mae’r mynediad yn hawdd, yn hwylus ac yn wastad, gyda chyfleusterau parcio wrth ymyl.
Pwyllgor Rheoli’r Neuadd sy’n gyfrifol am yr adeilad a bydd yn cyfarfod yn fisol, gyda Chyfarfod Blynyddol Cyhoeddus ym mis Ebrill fel arfer.
Cyflogir gofalwr rhan amser a bydd ar y safle bob gyda’r nos o nos Lun i nos Wener. Mae’r safle wedi cael camerau diogelwch yn ddiweddar.