Mae aelodau Cangen Talsarnau, 15 ohonom ar hyn o bryd, yn cyfarfod yn y Neuadd Gymuned yn fisol, rhwng mis Hydref a mis Mai.
Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer ar nos Lun gyntaf y mis am 7.00 o’r gloch, ond eleni am y tro cyntaf, penderfynwyd cynnal cyfarfod mis Ionawr a mis Chwefror yn y prynhawn am 2.00 o’r gloch, yn ystod y misoedd oeraf.
Mae gennym swyddogion megis Llywydd, Is-lywydd, Ysgrifennydd, Is-ysgrifennydd, Trysorydd ac Is-drysorydd, gyda phawb yn cyd-weithio’n dda er mwyn llwyddiant y gangen, gyda’r aelodau i gyd yn barod i helpu pan fo’r galw. Trefnir ymweliad i leoedd diddorol dwy waith y flwyddyn, ym mis Medi a mis Mehefin, a byddwn yn sicr o gael mwynhau cinio mewn lle bwyta da cyn dod adref! Cawn ginio Nadolig yn Rhagfyr a chinio Gŵyl Ddewi ym Mawrth yn flynyddol. Yn y misoedd eraill bydd sgyrsiau gwahanol wedi’u trefnu a cheisir cael amrywiaeth o siaradwyr difyr.
Mae tâl aelodaeth i’r Mudiad yn £18.00 y flwyddyn, yn cynnwys cael pedwar copi chwarterol o’r cylchgrawn diddorol a lliwgar ‘Y Wawr’. Codir £2.00 am y baned a’r raffl ym mhob cyfarfod yn y neuadd.
Mae croeso i ragor o ferched ymuno â’r Gangen a byddem yn falch iawn o weld aelodau newydd, gyda syniadau ffres, i sicrhau parhad i ni fel Cangen yn Nhalsarnau. Mae llawer o hwyl i’w gael yn y cyfarfodydd, a’r cymdeithasu’n werthchweil. Cewch ymuno unrhyw bryd.