Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Clwb y Werin

Daeth y clwb i fod pan agorwyd y Neuadd dros ugain mlynedd yn ôl ym mis Ebrill 2002 ar gyfer pobl hŷn sy'n unig ac angen cwmni. Mae wedi bod yn anodd ail gychwyn ond mi drefnwyd hyn ar gyfer dydd Mawrth 5ed o Hydref 2022 pan ddaeth saith aelod, gyda thri wyneb newydd yn eu plith, i’r neuadd.

Mae'r Clwb yn cyfarfod ar bnawn dydd Mawrth am 1.30 o’r gloch, am oddeutu dwy awr, mewn ystafell hyfryd, golau a chynnes braf, am gost o £2 y pen, sy’n gyfraniad at gostau'r Neuadd. Mae'r Clwb yn hollol ddwy ieithog a cheir cyfle i chwarae gemau o'ch dewis, gyda sgrabl yn dipyn o ffefryn yn y ddwy iaith, yn ogystal â chardiau, dominos, draffts, neu gêm o'ch dewis chi. Bydd paned a bisged ar gael tua hanner ffordd drwy'r pnawn a gêm o bingo i orffen. Mae raffl ar gael am 50c y tocyn, hefo dwy wobr bob wythnos (a'r arian yma i'w gadw ar gyfer y Clwb), a bydd tair gwobr hefo'r bingo.

Erbyn mis Rhagfyr roedd naw aelod wedi ymuno ac ar ddydd Gwener y 10fed cafwyd cinio Nadolig ardderchog yng Nghaffi Glan Dwr, sy'n perthyn i'r Pwll Nofio yn Harlech. Roedd pawb a'i het liwgar mewn hwyliau da a’r bwyd yn werth chweil. Mae’r cinio Nadolig ym mis Rhagfyr a'r te prynhawn yn ystod yr haf, yn achlysuron blynyddol – i’w cynnal mewn gwahanol leoedd bwyta. Eleni cawsom grant gan Gyngor Gwynedd ar gyfer pobl hŷn yr ardal i'w hybu i ail ymuno a throi allan i gymdeithasu unwaith eto. Mae’n bosib chwarae tenis bwrdd yn y Neuadd hefyd, ond mae trafferth i osod y bwrdd ar ei draed ac i’w dynnu lawr - tybed fedrwn ni ddenu dyn neu ddau i ymuno â ni i gael tipyn o nerth braich, ac wrth gwrs i gael tipyn o hwyl. Mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â’r Clwb unrhyw adeg.