COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU
GYNHALIWYD NOS LUN, 3 MEHEFIN 2024
Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Gwenda Griffiths
Anwen Roberts, Margaret Roberts, Eluned Willams, Eirlys Williams
Betsan Emlyn, Hanna Pugh, Colin Rayner, Celt Roberts, Eifion Williams
Mark Jones, Owen Lloyd Roberts, Mai Jones (15)
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Siriol Lewis ac Alaw Roberts.
Croesawyd bawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd a chyflwynodd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Rheoli ar 22 Ebrill 2024 a derbyniowyd rhain yn gywir.
Materion yn codi
Gwresogi’r Neuadd
Cyflwynodd Sion adroddiad cynhwysfawr ar y sefyllfa ddiweddaraf yn dilyn ymweliad y cynrychiolydd o Magna Heating ar 3 Mai. Fe fydd rhagor o wybodaeth yn dod i law ynglyn â chostau’r system newydd ar ôl iddo gael amser i wneud rhagor o ymholiadau.
Cyngerdd ‘Pedair’ – 27 Ebrill 2024
Adroddodd Carwyn i’r noson fod yn llwyddiannus iawn a bu canmol mawr i’r cyngerdd.
Gwnaed elw o £160.00 ar y raffl, £65 yn y bar hyd yma. Mae ychydig o boteli ar ôl a bydd rhain yn cael eu gwerthu ar noson arall. Nid oedd costau i’r neuadd gan i Noson Allan Fach wneud yn iawn am y gwahaniaaeth. Diolchwyd i Carwyn am ei holl waith yn gwneud y trefniadau ar gyfer y noson.
Y rampiau newydd
Roedd canmol mawr i’r gwaith o osod rampiau tu allan i dri o ddrysau’r Neuadd gan Gwmni Wigglesworth - y cyfan yn edrych yn dwt a thaclus iawn. Roedd rhai blociau brown a godwyd o dan y rampiau newydd ar ôl a chynigiodd Iwan Morgan rhain i aelodau’r Pwyllgor be bai diddordeb gan unrhyw un. Mynegodd Celt ddiddordeb yn rhain.
Anfonwyd gair o ddiolch at Gwmni Iwan Morgan am y gwaith da o osod y rampiau.
Prisiau gosod y Neuadd
Adolygwyd y prisiau presennol a chytunwyd i adael rhain fel ag y maent ar hyn o bryd.
Ethol Swyddogion am 2024-25
Bydd Margaret yn parhau yn ei swydd fel Trysorydd am flwyddyn arall, gyda Carwyn Richards yn dechrau gweithredu fel Is-drysorydd. Cytunodd Anwen a Mai i geisio parhau fel Cyd-ysgrifenyddion am flwyddyn eto, ac roedd Sion yn parhau yn ei swydd fel Cadeirydd, gyda Mark Jones yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd.
Clirio llanast tu allan i Ystafell y Gloch
Adroddodd Mark ei fod ef a Carwyn wedi clirio rhan fwyaf yr offer oedd yna, ond bod y ddau deiar yn fawr a thrwm a byddai rhaid cael help i symud rhain eto.
Materion eraill
Sgyrsiau yn ystod tymor y gaeaf
Eglurodd Carwyn bod rhai sgyrsiau yn barod ar y gweill.
Cais am fenthyg cadeiriau’r Neuadd
Gofynnodd Betsan Emlyn am gael benthyg ychydig o gadeiriau ar gyfer eu defnyddio yn y Ship yn ystod ‘Twrw Talsarnau’. Cytunwyd i hyn.
Glanhau landeri ayyb
Eglurodd Mark bod y landeri o gwmpas y Neuadd angen eu glanhau ac roedd dipyn o fwd tu allan i Ystafell y Gloch hefyd. Roedd pawb yn cytuno bod angen gwneud y gwaith a bydd Mark yn trefnu gyda Aquashine i wneud hyn.
Cydnabyddiaeth
Darllenwyd y cerdyn dderbyniwyd gan Sian Llewelyn, ar ran Cyfeillion Ellis Wynne, yn diolch am bob cymorth a chyfraniad gafwyd gan aelodau Pwyllgor y Neuadd gyda’r Symposiwm gynhaliwyd ar 18 Mai. Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda nifer dda wedi mynychu’r achlysur.
Daeth y cyfarfod i ben am 20.40.
Cadeirydd : ……………………………….
Dyddiad : ………………………………..