COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU
GYNHALIWYD NOS LUN, 22 EBRILL 2024
Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Anwen Roberts
Margaret Roberts, Eluned Williams, Gwenda Griffiths, Siriol Lewis
Betsan Emlyn, Alaw Robertts, Eifion Williams, Colin Rayner
Mark Jones, Owen Lloyd Roberts, Mai Jones (14)
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Celt Roberts ac Eirlys Williams.
Croesawyd bawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, gan estyn croeso cynnes i Alaw Roberts, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Talsarnau, i’w chyfarfod cyntaf.
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod 25 Mawrth i sylw’r aelodau a’u derbyn yn gywir.
Materion yn codi
Gwresosgi’r Neuadd
Hyd yma, nid oedd Sion wedi llwyddo i gael cyfarfod gyda’r cynrychiolydd o Gwmni Magna Heating – oherwydd i’r gŵr hwnnw eisoes fethu dod i ddau gyfarfod, ond gobeithir y bydd trefniant iddo ddod eto’n y dyfodol agos.
Y ffens ar ochr y ffordd
Sylweddolwyd bod y ffens ar ochr y ffordd ger y ffos wedi’i thrwsio ac yn edrych dipyn taclusach – ond ni wyddys gan bwy? Gwneir ymholiadau gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen.
Yr arwydd yn dynodi lleoliad y Neuadd
Deallwyd mai’r Cyngor Sir fydd yn gyfrifol am ail-osod yr arwydd ar ochr y briffordd, ac nid
y Cyngor Cymuned fel yr adroddwyd yn y cofnodion blaenorol.
Hysbysfwrdd Newydd
Yr hysbysfwrdd wedi’i osod yn ei le yn daclus. Bydd pedair allwedd – un i’r Ysgol, un i’r Cyngor Cymuned, un i’r Neuadd Gymuned a chedwir un arall yn Ystafell y Gofalwr yn y Neuadd.
Trafodwyd yr angen i osod rheol bod rhaid i unrhyw hysbyseb fod un ai’n Gymraeg yn unig, neu’n Gymraeg/Saesneg, a chytunwyd i hyn.
Cyngerdd ‘Pedair’
Cadarnhawyd y trefniadau terfynol ar gyfer y cyngerdd nos Sadwrn, 27 Ebrill a derbyniwyd nifer dda o wobrau i’r bwrdd raffl. Bydd Eirlys, Margaret a Mai yn gofalu am hyn.
Materion eraill
Clirio llanast y Cylch Meithrin
Roedd angen cael gwared â’r holl offer adawyd gan y Cylch Meithrin tu allan i Ystafell y Gloch ar ôl i’r Cylch ddod i ben. Addawodd Sion, Carwyn a Mark y byddant yn gofalu am hyn.
Goleuadau LED
Adroddodd Colin bod Dafydd Morgan, y trydanwr, wedi cwblhau newid y goleuadau i rhai
LED.
Cyfarfod Blynyddol Cyhoeddus
Bydd y cyfarfod nesaf yn Gyfarfod Blynyddol Cyhoeddus a hynny ar nos Lun, 3 Mehefin
am 7.30 o’r gloch, ac yn dilyn Cyfarfod Rheoli Cyffredinol.
Daeth y cyfarfod i ben am 20.10.
Cadeirydd : ………………………………
Dyddiad : ………………………………