Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cofnodion Pwyllgor Rheoli'r Neuadd Gorffennaf 2024

        COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU          COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU   GYNHALIWYD NOS LUN, 22 GORFFENNAF 2024

Presennol  : Sion Richards (Cadeirydd),  Mark Jones,  Carwyn Richards,  Anwen Roberts Margaret Roberts, Eluned Williams,  Siriol Lewis,  Betsan Emlyn,  Mai Jones Gwenda Griffiths,  Colin Rayner,  Celt Roberts,  Eifion Williams Owen Lloyd Roberts (14)

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Alaw Roberts, Hanna Pugh ac Eirlys Williams.
Roedd Alaw wedi hysbysu’r Pwyllgor y bydd gwaith Cynnal a Chadw yn cael ei wneud ar do’r Ysgol yn ystod gwyliau’r haf ac y bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod ond ni ddylai hyn amharu ar y Neuadd.  Diolchwyd i Alaw am yr wybodaeth.
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 3 Mehefin a chytunwyd i’w derbyn fel rhai cywir. 
Materion yn codiGwresogi’r NeuaddAdroddodd Sion bod y cwmni Magna Heating wedi bod yn hir yn ymateb, ac er iddynt addo gwneud hynnny’n fuan, ni chafwyd dim ymateb erbyn heddiw.  Arhosir am ychydig amser eto cyn chwilio am bosibiliadau eraill.
Glanhau LanderiEglurodd Mark ei fod wedi derbyn dau bris am y gwaith ond bod angen cael un pris arall cyn penderfynu’n derfynol.  Pan ddaw pris arall i law, cytunwyd i adael y mater yng nghofal Mark, Swyddog Iechyd a Diogelwch, i dderbyn y pris gorau.
Materion eraillCais gan ‘Ti a Fi’Derbyniwyd cais gan arweinydd y mudiad yma i gael defnyddio Ystafell y Gloch unwaith eto ar fore dydd Gwener ac roeddynt eisiau gwybod beth fyddai’r costau.  Wedi trafodaeth, cytunwyd i godi £5 y tro gan y byddai angen gwresogi’r ystafell yn ystod y tymor i ddod.  Hefyd byddai rhaid ychwanegu’r amod - pe byddai’r Cylch Meithrin yn ail ddechrau, y byddent hwy yn cael blaenoriaeth ar yr ystafell.
Adroddiad gan yr archwilwyr tânYn dilyn derbyn adroddiad gan Snowdonia Fire yn nodi nifer o ddiffygion yn y Neuadd,gweithredwyd i ddatrys y diffygion a ddarganfuwyd yn ddiymdroi, gyda Dafydd Morgan, wedi bod yma’n gofalu am y gwaith trydanol, ac roedd popeth mewn trefn erbynn hyn.
Adroddodd Colin hefyd bod y Archwilwyr Adeiladau wedi ymweld ar 19 Gorffennaf ac yn canmol y gwaith ar y rampiau yn fawr iawn.  Cytunwyd i wahodd cynrychiolydd o’r Loteri a’r Grid Cenedlaethol,i ymweld, gan iddynt hwy rhoi grantiau at y gwaith. 
Glanhau carpedi’r NeuaddRoedd angen trefnu cwmni yma i lanhau carpedi’r Neuadd – Cleaner Carpets o Bermo – wedi bod yma eisoes y llynedd.  Trefnwyd yr ymweliad ar gyfer 3 Awst.
Y diffibrilwyrMynegodd Siriol bod angen cael cadarnhad o’r Ynys (gan fod y ty gerllaw ar werth) a’r Garej yn Nhalsarnaui eu bod yn fodlon i gadw’r diffibrilwyr yn eu lle presennol.   Eglurodd Siriol bod y bwrdd sy’n dal y peiriant ar wal y garej yn Nhalsarnau braidd yn simsan.  Addawodd Sion i fynd i’w wneud yn ddiogel.
Angen cynrychiolwyrAdroddodd Eluned bod dwy sedd wâg ar Lywodraethwyr Ysgol Talsarnau / Cefn Coch a bod angen penodi un rhiant ac un aelod annibynnol i fod yn aelodau.  Trafodir hyn yn ein cyfarfod nesaf.
Nosweithiau o sgyrsiauEglurodd Carwyn ei fod yn ceisio trefnu nosweithiau ar gyfer y gaeaf – roedd syniadau mewn llaw ar hyn o bryd.
Cyngerdd gyda ‘Bwncath’Sion a Carwyn yn trefnu noson yn y Neuadd gyda ‘Bwncath’ nos Wener, 30 Awst.  Pris tocyn fydd £17.50 a bydd 180 o docynnau ar gael.  Roedd hefyd wedi trefnu cael Cwmni Diogelu Tarian o Blaenau Ffestiniog yma ar y noson i sicrhau trefn.
Cyfarfod nesafCynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor nos Lun, 23 Medi 2024 am 7.30 o’r gloch.



Daeth y cyfarfod i ben am 20.20.




Cadeirydd :  ……………………………
Dyddiad :   …………………………….