Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cofnodion Pwyllgor Rheoli'r Neuadd Mawrth 2024

COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU GYNHALIWYD NOS LUN, 25 MAWRTH 2024


Presennol  : Sion Richards (Cadeirydd),  Carwyn Richards,  Margaret Roberts Anwen Roberts,  Gwenda Griffiths,  Eluned Williams,  Betsan Emlyn Eirlys Williams,  Mai Jones,  Celt Roberts,  Colin Rayner,  Mark Jones Eifion Williams,  Owen Lloyd Roberts,                                      (14)
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Siriol Lewis, Alaw Roberts a Hanna Pugh.


Cyflwynodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf ar 26 Chwefror ac fe’i derbyniwyd yn gywir gan yr aelodau.


Materion yn codi Gwresogi’r neuadd. Eglurodd Sion bod cynrychiolydd o Gwmni Magna Heating yn dod i’w gyfarfod yn y  Neuadd dydd Gwener, 5 Ebrill i weld beth sydd ei angen arnom.  Ond yn y cyfamser, wrth i     Gwmni Wigglesowrth wneud gwaith o osod ramp ger ddrws Ystafell y Gloch, darganfuwyd   bod y beipen olew wedi rhydu o dan y ddaear ac yn gollwng olew rhywfaint, ers tro mae’n   debyg.  Galwyd ar Adrian Lumb i ddod i weld y sefyllfa ac awgrymodd yntau wella cyflwr y   beipen am ychydig, cyn y byddai rhaid gwneud gwaith mwy o bosib o adnewyddu’r beipen i   gyd.  Wedi trafod  y sefyllfa, cytunwyd i aros tan i Gwmni Magna Heating ymweld.


  Y ffordd at y neuadd  Adroddodd y Cadeirydd bod Swyddog o Gyfoeth Naturiol Cymru yn dod yma i weld cyflwr   y ffens a.y.y.b.  Deallwyd gan Eluned mai yn ôl amodau hen lês, mai cyfrifoldeb y Pwyllgor   yma yw’r ffens, ond nid oedd yr aelodau yn cytuno â hyn o gwbl gan fod y ffens yn bodoli   ymhell cyn i’r Neuadd gael ei chodi – ac mae’r ffordd beth bynnag yn cael ei defnyddio yn   rheolaidd gan yr Ysgol i gludo nwyddau i’r gegin a gan y Bwrdd Dŵr i’w safle heibio’r   Neuadd.


Yr arwydd ar ochr y ffordd yn dynodi lleoliad y Neuadd. Roedd y syniad i symud yr arwydd i ochr arall y briffordd ddim yn un hwylus a chytunwyd i’r awgrym i’w symud i ochr gyferbyn y llwybr lle mae ar hyn o bryd – h.y. ar waelod y llwybr i fyny’r Gelli.  Fe fydd y Cyngor Cymuned yn gyfrifol am hyn.


Thermostat HIVE Adroddodd Colin y bydd hyn yn costio £200 gyda £100 arall o gôst i’w osod.  Cytunwyd isymud ymlaen i gael un o rhain.


Materion eraill Yr hysbysfwrdd newydd Cadarnhaodd Eluned ar ran y Cyngor Cymuned, bod yr hysbysfwrdd newydd wedi cyrraedd ac y bydd yn cael ei osod yn ystod gwyliau’r Pasg.  Ychwanegodd hefyd bod swm y cyfraniad anfonwyd i’r Neuadd gan y Cyngor Cymuned yn anghywir  - £1,500 ddylai fod ac nid £2,000.Fe fydd hyn yn cael ei gywiro.Yn dilyn ychydig o drafferthion, cadarnhaodd Celt bod cofnodion y Cyngor Cymuned yn awr yn ymddangos ar Safle’r We.


Cais am gymorth gyda pholisiauEglurodd Celt ei fod wedi derbyn cais oddi wrth aelod o Bwyllgor Neuadd Garndolbenmaen yn gofyn am ein cymorth ynglyn â chreu polisiau.  Wedi trafodaeth, cytunwyd i anfon copiauo’n polisiau ni y gallai fod o help iddynt.


Dim arwydd yn dynodi lle mae’r Gwasanaeth Post 
Roedd cwyn wedi’i wneud nad oedd safle’r Gwasanaeth yma yn cael ei ddangos yn amlwg.Eglurwyd bod gan y Post ei hun arwyddbost mawr i’w osod tu allan i ddrws yr ystafell snwcer ond nid yw’n cael ei ddefnyddio!  Gan mai ychydig iawn o fusnes sy’n digwydd, awgrymodd dyn y Post y byddai gosod arwydd ar y briffordd yn well, (mae arwydd yn yr hen flwch eisoes) ac wedi trafodaeth cytunwyd, pan fydd yr hysbysfwrdd newydd yn ei le, i osod rhybudd clir yn amlwg ynddo i ddangos lleoliad y Post.
Glanhau carpediAdroddodd Colin bod tri man – y cyntedd, ystafell y gloch ac ystafell y gofalwr wedi cael eu glanhau gan arbenigwr ar gost o £120.00 a diolchwyd i Colin am drefnu hyn.  Mae edrychiad y mannau yma wedi gwella’n amlwg iawn.


Grant Cyngor Gwynedd Derbyniwyd gwybodaeth ar y We bod grantiau ar gael a allai fod o ddiddordeb i’r Neuadd – ond eglurwyd bod angen cael rhyw syniad o’r costau ynghlwm â gwresogi cyn gellir meddwl gwneud unrhyw fath o gais.

  
Cyngerdd ‘Pedair’Cytunwyd y byddem yn gwerthu raffl ar y noson a chytunodd Eirlys i helpu gyda hyn; roedd angen sicrhau bod gennym wobrau da i’w cynnig.  Cawn weld beth fydd i law noson ein cyfarfod nesaf ar 22 Ebrill.  Bydd Margaret a Mai yn barod i helpu ar y bwrdd raffl hefyd.


Noson gyda Jess John ar 11 Mawrth Adroddodd Celt bod y noson wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan – ond braidd yn siomedig i rai na chafwyd digon o hanes o gwmpas Llandecwyn a Thalsarnau.  Roedd Jess wedi gwneud gwaith ymchwil manwl ar leolydd yn ardal Llanbedr a Dyffryn, yn dangos beth oedd byw mewn tlodi mawr, a hyn roedd wedi’i gyfleu ar y noson.
Eglurodd Celt bod gennym ddigon o wybodaeth am leolydd yn yr ardal yma y gellid cynnal noson yn ystod rhaglen y gaeaf i arddangos y lluniau ac adrodd eu hanes.


Cyfarfod Blynyddol Wedi trafodaeth, cytunwyd i beidio cynnal cyfarfod ym mis Mai, ond yn hytrach i gynnal y Cyfarfod Blynyddol ar nos Lun, 3 Mehefin gyda chyfarfod o’r Pwyllgor Rheoli yn dilyn.


Cyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor uchod nos Lun, 22 Ebrill am 7.30 o’r gloch ac yna cyfarfod arall o’r Pwyllgor yma nos Lun, 22 Gorffennaf. 
Ni chynhelir cyfarfod ym mis Awst.




Daeth y cyfarfod i ben am 20.20.








Cadeirydd :  …………………………..
Dyddiad  :    ………………………….