Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cofnodion Pwyllgor Rheoli'r Neuadd Chwefror 2024

 

COFNODION PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU
GYNHALIWYD NOS LUN, 26 CHWEFROR 2024

 

Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Margaret Roberts
Anwen Roberts, Siriol Lewis, Gwenda Griffiths, Celt Roberts, Mai Jones
Colin Rayner, Eifion Williams, Mark Jones, Owen Lloyd Roberts (12)

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Eluned Williams, Eirlys Williams, Betsan Emlyn a Hanna Pugh (wedi colli ei nain ddoe)

Darllenwyd llythyr ymddiswyddiad Ann Jones o’r Pwyllgor, am resymau personal, a chytunwyd i anfon gair o ddiolch ati am ei gwasanaeth a’i chefnogaeth i’r Pwyllgor am nifer helaeth o flynyddoedd.

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 22 Ionawr a’u derbyn yn gywir. Diolchwyd i Anwen am ymgymryd â’r gwaith o gofnodi yn absenoldeb Mai y tro yma.

Materion yn codi
System gwresogi’r Neuadd
Eglurodd Sion ei fod wedi cysylltu gyda cwmniau eraill sy’n delio gyda gwresogi neuaddau, yn dilyn cael gwybod bod ei gysylltiad yn y cwmni gwreiddiol y bu mewn cysylltiad â hwy wedi ymddeol o’i swydd. Ni chafwyd llawer o lwc hyd yma gyda neb arall, ac yn y cyfamser, argymhellwyd ein bod yn cario ‘mlaen gyda cael ‘burner’ newydd i’r foliar bresennol, yn dilyn derbyn adroddiad gan Adrian Lumb bod angen gwneud hyn er mwyn ceisio gwella ychydig ar y defnydd o olew!

Adroddodd Margaret bod defnydd trwm iawn ar yr olew a bydd yn anfon neges at Adrian Lumb i wneud y gwaith ar fyrder! Eglurodd Margaret hefyd bod y Cyngor Sir wedi anfon y swm o £2,067.01 sy’n parhau i ddod i’r Neuadd yn flynyddol, am y defnydd mae’r Ysgol Gynradd yn ei gael o’r Neuadd. Hyn yn dderbyniol iawn.

Gwresogi Ystafell y Prifathro
Dim ymateb o’r Adran Eiddo ynglyn â hyn. Cytunodd Sion i gysylltu eto gyda Nicola yn yr Adran yma. Os dim llwyddiant yn y cyfeiriad yma, gofyn am gymorth y Cynghorydd Gwyfor Owen.

Goleuadau LED
Yn dilyn cael dau bris i law i newid goleuadau’r neuadd i LED, heblaw am y brif ystafell, cytunwyd, i dderbyn pris Dafydd Morgan o £1,912.00 ac i anfon gair ato yn datgan hyn a gofyn iddo wneud y gwaith erbyn diwedd mis Mai 2024. Anfonir e-bost ato i’r perwyl yma.

 

 

Materion eraill
Y ffordd at y Neuadd
Mynegwyd pryder nad oedd dim wedi cael ei wneud gan y Cyngor Sir i wella cyflwr y ffordd at yr Ysgol, y Neuadd a Safle’r Bwrdd Dŵr. Roedd cyflwr y ffens ar ochr yr afon yn drychinebus hefyd yn dilyn glanhau’r afon gan beiriant mawr. Cytunodd Colin i gael gair gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen bore dydd Sadwrn, 2 Mawrth pan fydd yn cynnal cymorthfa yn y Neuadd. Hefyd i son am arwydd dynodi lleoliad y Neuadd, sydd yn mynd o’r golwg tu ôl i goeden fawr, ochr draw i’r briffordd, gyferbyn â’r Neuadd. Er i Colin geisio torri ychydig ar y canghennau, nid yw’r arwydd i’w weld llawer gwell. Awgrymir y byddai’n well ei symud i ochr arall y ffordd, lle nad oes coed, ond mater i’r Cyngor Sir fyddai hyn eto.

Swydd Is-drysoydd
Margaret yn bryderus ynglyn â’r ffaith nad oes Is-drysorydd i arwyddo sieciau a.y.y.b, yn dilyn ymddiswyddiad Ann Jones. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i rannu’r gwaith o logi’r neuadd gan berson heblaw’r Trysorydd ac i gael Is-drysorydd newydd. Da yw gallu adrodd bod Carwyn Richards wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith o Is-drysorydd, ac y bydd Colin Rayner yn gofalu am logi’r neuadd.

Yn dilyn y newid yma, fe fydd Carwyn yn gorfod rhoi’r gorau i’w swydd fel Is-gadeirydd, a gobeithir penodi rhywun yn ei le yn y cyfarfod blynyddol. Fe fydd Margaret yn trefnu i gael ‘Mandate’ newydd o’r Banc i gyfateb â’r newid yn y sefyllfa, ac yn ogystal â’i henw hi a Carwyn, cytunodd Sion Richards, y Cadeirydd i fod yn drydydd llofnod.

Gweithgareddau yn y Neuadd
Cadarnhawyd dwy sgwrs : -
Eifion Lewis o Flaenau Ffestiniog yn cyflwyno sgwrs nos Lun, 4 Mawrth am 7.30 o’r gloch a’i destun fydd Pwerdy Maentwrog:
Jess John yn cyflwyno sgwrs ar Furddunod yr Ardal nos Lun, 11 Mawrth am 7.30 o’r gloch. Cytunwyd i gynnig paned ar ddiwedd y sgyrsiau.

Cyngerdd ‘Pedair’ nos Sadwrn, 27 Ebrill
Cytunwyd i werthu raffl ar y noson yma. Trafodir eto yn ein cyfarfod nesaf ar 24 Mawrth.

Thermostat HIVE
Er mwyn cadw golwg mwy manwl ar y defnydd o olew, argymhellwyd cael Thermostat HIVE y gellir ei reoli o’r cartref. Wedi holi Dafydd Morgan os yw hwn yn bris rhesymol, cytunwyd i’r syniad a bydd Colin yn barod i gadw llygad ar yr olew.

Safle We Talsarnau ar ei newydd wedd
Adroddodd Celt bod y safle yn barod i’w wylio ac eglurodd bod llawer iawn o erthyglau, fideos a lluniau yn barod i’w gweld.

Sgwrs ar Ysgol y Degwm
Eglurodd Siriol y byddai Dewi Tudur yn barod i gyflwyno sgwrs ar y testun yma yn ystod tymor yr Hydref a chroesawyd hyn.

Costau hysbysebu yn y Llais
Eglurodd Anwen y bydd Llais Ardudwy yn codi tâl, os codir tâl am y gweithgaredd, am hysbysebu gweithgareddau ar ffurf poster – yn ôl maint arbennig. Bydd mwy o wybodaeth am hyn eto wedi i’r pwyllgor benderfynu ar y prisau’n iawn.

Rheolau casglu gwastraff
Adroddodd Carwyn y bydd newid yn rheolau casglu gwastraff Cyngor Gwynedd ym mis Ebrill – aros am fwy o fanylion eto.

Cyfarfod nesaaf
Cynhelir y cyfarfod nesaaf y Pwyllgor Rheoli nos Lun, 25 Mawrth 2024 am 7.30 o’r gloch.

 

 

 

Daeth y cyfarfod y ben am 20.30.

 

 

 

 

 

Cadeirydd :- ………………………………

Dyddiad :- ……………………………….