COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU GYNHALIWYD NOS LUN, 22 IONAWR 2024
Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Anwen Roberts, Siriol Lewis Margaret Roberts, Eluned Williams, Gwenda Griffiths, Celt Roberts Colin Rayner, Eifion Williams, Hanna Pugh, Owen Lloyd Roberts (12)
Ymddiheuriadau : Mai Jones, Betsan Emlyn, Mark Jones, Ann Jones, Eirlys Williams.
Nid oedd Alaw Roberts, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Talsarnau yn bresennol. Trafodwyd y syniad o newid amser y cyfarfod i 7.00 o’r gloch i hwyluso iddi allu mynychu ond pasiwyd i beidio gwneud y newid heno gan fod amryw o’r aelodau yn absennol.
Cyflwynodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf ar 27 Tachwedd a derbyniwyd rhain yn gywir.
Materion yn codiSystem newydd i wresogi’r NeuaddDal i aros am rywun o’r cwmni ddod i ymweld mae Sion, er iddo fod wedi cysylltu erbyn hyn hefo cyfarwyddwr y cwmni. Yn y cyfamser mae Margaret wedi gallu cael Dafydd Price i ddod i gael golwg ar y gwresogyddion yn y neuadd fawr ac mae’n gynhesach yno rwan. Amser a ddengys faint mor effeithiol fyddant.
Gwaith adnewyddu yn y NeuaddGyda’r gwaith ar y drysau newydd wedi ei gwblhau, cawsom addewid gan Iwan (Cwmni Wigglesworth) fod gwaith y rampiau ar y gweill at ddiwedd y mis.
Yr hysbysfwrdd newyddAngen i ni wneud dim rhagor ynglyn â hyn. Popeth mewn trefn a'r Cyngor Cymuned yn cymryd cyfrifoldeb am ei osod yn ei le.
Gwresogi Ystafell y PrifathroAdroddodd Sion fod Gwion Owens wedi cysylltu hefo Adran Eiddo y Cyngor. Mae Nicola (y person cyswllt) yn mynd i ddod yn ôl hefo manylion yr Arolygwr i drafod ein problem.
Y Ffair NadoligAdroddod Margaret fod yr arian gasglwyd ar y noson yn £439 a chytunodd pawb ei bod wedi bod yn noson ddifyr iawn.
Torri canghennau’r goeden dros y fforddColin wedi cael caniatad y perchennog ac yn aros am dywydd gwell i fynd ati.
Y sganiwr newyddCawsom glywed gan Celt am y teclyn defnyddiol iawn ydym wedi ei brynu ar gyfer Trysorau ac unrhyw ddefnydd arall yn ymwneud å’r neuadd.
Cyfarfodydd/SgyrsiauYn ogystal å sgwrs gan Kirsten Manley am Goed Llennyrch ar nos Lun 5 Chwefror, mae Carwyn bellach wedi cadarnhau sgwrs gan Eifion Lewis am Bwerdy Maentwrog, Nos Lun, 4 Mawrth. Nid yw Celt wedi gallu cael ymateb gan Jess John hyd yma.
Da oedd clywed fod Carwyn wedi llwyddo i drefnu noson hefo ‘Pedair’ ar nos Sadwrn 27 Ebrill. Pris y tocynnau fydd £15. Y bwriad yw gwerthu’r tocynnau drwy gwmni arlein ond cadw nifer fach i’w gwerthu gan y Gofalwr yn y Neuadd, a thalu wrth eu cael. Byddant ar gael cyn hir. Bydd Carwyn a Sion yn penderfynu nifer y gynulleidfa yn ôl y ffordd orau o osod y byrddau a’r cadeiriau. Bwriedir cael bar yn y gegin fel o’r blaen.
Square ReaderCytunwyd i’w gadw, petai ond er mwyn gwerthiant y bar.
Swydd Is-drysoryddDiolchwyd i Hanna am yr eglurhad am ei sefyllfa ynglyn â’r swydd is-drysorydd. Carwyn ddim yn gweld y ffordd yn glir i gymryd y swydd gan fod Sion yn gadeirydd ac yn frawd iddo. Nid oedd neb o'r aelodau oedd yn bresennol am ymgymryd â'r swydd. Adroddwyd fod y Trysorydd presennol yn gyfrifol am y cyfrifon a hefyd am osod y Neuadd. Holodd Siriol a fyddai'n bosib i aelod arall ymgymryd â'r gwaith o osod y Neuadd, i ysgafnhau cyfrifoldeb y Trysorydd. Penderfynwyd gohirio'r mater i'r cyfarfod nesaf.
Goleuadau LEDHyd yma ni chafodd Colin ymateb o unlle ynglyn â’r goleuadau LED. Mae’r amcangyfrif gawsom am wneud y tri polyn yn awr yn hen. Mae arnom angen tri phris newydd, neu ddau o leiaf. Mae Colin am barhau i chwilio.
Di-ffibriliwr yr YnysAdroddodd Siriol fod hwn, ar ôl cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth Ambiwlans yn ddiweddar, wedi dod yn ei ôl erbyn hyn, ac wedi ei adnewyddu gyda padiau newydd ayyb. Roedd wedi cael ei adael yng Ngorsaf Heddlu Porthmadog a chan mai dim ond enw Neuadd Gymuned Talsarnau oedd arno, doedd ddim modd iddynt wybod o ble yn union roedd wedi dod. Mae Siriol, rwan wedi labelu pob un diffib hefo enw’r man penodol. Diolchwyd i Siriol am ei gwaith trylwyr yn gofalu am hyn i gyd.
GrantiauSoniodd Carwyn am grant digwyddiadau yr oedd wedi fwriadu gwneud cais amdano. Penderfynodd na fyddai’n addas oherwydd gwahanol gymhlethdodau.
Film Bank MediaMae Carwyn wedi cofrestru dros dro hefo’r cwmni yma i weld a fyddai o fudd i ni. Mae wedi talu’r blaen-dâl o’i boced ei hun am rwan.
Yn fyr, fel hyn mae’n gweithio – llogi ffilm i’w dangos drwy gyfrifiadur ar y wal yn y neuadd fawr, gyda’r taflunydd a’r offer sain sydd gennym. Côst ffilm, dibynnu pa un, tua £90 efallai. Syniad da fel adloniant yn y neuadd a ffordd dda o ddod ag arian i fewn.
Cais am arian Cyfeillion y NeuaddAdroddodd Margaret mai araf yw’r taliadau i’r banc wedi bod hyd yma ond fod dipyn o arian parod wedi ei gasglu gan y Gofalwr o’r Ystafell Snwcer. Cynigiwyd ein bod yn parhau gyda’r cais ar FB Cymuned Talsarnau ac yn y Llais unwaith eto.
CofionRoedd pawb ar y pwyllgor am gyfleu eu cofion cynnes at Mai a dymuno adferiad buan iddi.
Daeth y cyfarfod i ben am 8:30.
Cadeirydd : ……………………………..
Dyddiad : ……………………………..