Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cofnodion Pwyllgor Rheoli'r Neuadd Tachwedd 2023

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU
GYNHALIWYD NOS LUN, 27 TACHWEDD 2023

Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Anwen Roberts, Ann Jones
Margaret Roberts, Eluned Williams, Gwenda Griffiths, Eirlys Williams
Mai Jones, Celt Roberts, Colin Rayner, Mark Jones, Eifion Williams
Owen Lloyd Roberts (14)

Ymddiheuriadau : Siriol Lewis, Betsan Emlyn, Hanna Pugh.

Cyflwynodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf ar 23 Hydref a derbyniwyd rhain yn gywir.

Materion yn codi
System newydd i wresogi’r Neuadd
Eglurodd Sion ei fod wedi anfon gwybodaeth perthnasol i’r Cwmni ‘Magna Renewabales’ a’i fod yn dal i aros am adroddiad ganddynt. Roedd y pryder yn parhau ynglyn â gwresogi’r Neuadd gan fod y gwresogyddion yn y brif ystafell ddim yn gweithio i gyd. Wedi trafodaeth, cytunwyd i ofyn i blymar ddod i gael golwg arnynt a chytunodd Margaret i gysylltu â Dafydd Price, neu ei fab, i ddod i geisio gweld beth oedd y broblem.

Gwaith adnewyddu yn y Neuadd
Adroddwyd bod Cwmni Wigglesworth wedi dechrau ar adnewyddu’r drysau a bydd y gwaith
o osod y rampiau yn digwydd dechrau’r flwyddyn nesaf.

Neges gan y Cyngor Cymuned ynglyn â’r hysbysfwrdd
Yn dilyn ein cais at y Cyngor Cymuned am gymorth ganddynt i gael hysbysfwrdd newydd, derbyniwyd neges gan Annwen Hughes, y Clerc yn adrodd bod y Cyngor wedi cyfarfod ac wedi cytuno i brynu hysbysfwrdd, run fath â’r un sydd ger Siop y Morfa yn Harlech, a byddant hefyd yn barod i’w osod yn ei le. Mae tri rhan i’r hysbysfwrdd – un i’r Neuadd, un i’r Ysgol ac un i’r Cyngor Cymuned. Gwerthfawrogwyd eu cymorth yn fawr iawn a bydd gair o ddiolch yn cael ei anfon atynt.

Gwresogi Ystafell y Prifathro
Adroddodd Sion bod yr Ysgol yn dal i aros am ymateb y Cyngor Sir a bydd ef yn parhau i wneud ymholiadau pellach.

Adroddiad ar dri achlysur
Yn gyntaf, adroddodd Carwyn am y sgwrs gafwyd gan Bid Webb o Brifysgol Bangor nos Lun, 13 Tachwedd, ar y syniad o blannu coed i geisio osgoi llifogydd. Roedd hwn y tro cyntaf iddi gyflwyno sgwrs yn y Gymraeg a diolchwyd iddi’n gynnes iawn am ei hymdrech ardderchog.
Roedd nifer barchus wedi dod i wrando arni a chafwyd paned a bisged i ddiweddu’r noson.
Gwnaed elw o £20.00 i’r Neuadd.

Yn ail, derbyniwyd neges gan Betsan Emlyn yn dweud bod y trip i Lerpwl dydd Sadwrn,
18 Tachwedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda nifer dda wedi mynd ar y bws, a gwnaed
elw o £360 i’r Neuadd. Diolchwyd i Betsan am wneud y trefniadau ac am yr elw da.
Hefyd eglurodd Betsan y bydd y Ship ar agor bore diwrnod Dolig i bobl leol gael mwynhau diod am ddim. Bydd cinio Dolig yn cael ei weini am 2 o’r gloch.

Yn olaf, adroddodd Carwyn ar yr adloniant gwych gafwyd nos Sadwrn, 25 Tachwedd gan Steve Eaves a’r Band. Roedd cynulleidfa niferus iawn wedi dod i lenwi’r Neuadd ac roedd gwerthfawrogiad pawb yn amlwg wrth iddynt ymateb i’r Band. Noson arbennig o lwyddiannus a diolchwyd i Carwyn am drefnu’r achlysur, ac i Sion am ofalu am y goleuo effeithiol iawn, a’r miwsig yn y cefndir cyn i’r Band ddechrau chwarae ac yn ystod yr hanner amser. Roedd cost y Band yn £900.00, derbyniwyd £830.00 a bydd Noson Allan Fach yn ein di-golledu o’r gwahaniaeth o £70.00. Eglurodd Carwyn nad oedd wedi derbyn arian oddi wrth gwerthiant y diodydd hyd yma a’r gobaith yw y bydd hynny yn rhoi ychydig o elw i’r noson. Deallwyd yn ddiweddarach bod elw o £228.00 yn y diwedd.

Cyfarfod o’r Pwyllgor Bach
Cynhaliwyd cyfarfod o’r uchod nos Lun, 20 Tachwedd gydag Eluned, Margaret, Anwen, Ann, Gwenda a Mai yn bresennol - i wneud ychydig o baratoadau ar gyfer y Ffair Nadolig ar 30 Tachwedd. Edrychwyd drwy’r cypyrddau yn Ystafell y Gloch i weld pa bethau oedd yno a fyddai’n addas ar gyfer eu gwerthu a threfnwyd i gadw rhai eitemau at y raffl. Trefnwyd i fynd i’r Neuadd yn gynnar pnawn dydd Iau i baratoi ar gyfer y Ffair.

Y Ffair Nadolig
Eglurodd Anwen bod dipyn o fyrddau gwerthu wedi’u harchebu, a bydd bwrdd gwerthu raffl wrth y drws, dan ofal Eirlys Williams. Gwnaed apêl am fisgedi, a threfnwyd y baned a sicrhawyd bod gennym ddigon o de, coffi a siwgr. Cytunodd Owen Lloyd Roberts i fod wrth y drws allanol i ofalu am y tâl dod i mewn.

Materion eraill
Torri coeden
Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr arwydd ar ochr y briffordd, yn dynodi lle mae’r Neuadd, yn brysur mynd o’r golwg tu ôl i frigau coeden. Cysylltir â’r perchennog i ofyn caniatad i’w thacluso fel bo’r arwydd yn mwy amlwg, a chytunodd Colin i wneud y gwaith o’i thwtio.

Sganiwr newydd
Eglurodd Celt bod angen sganiwr mwy ar y Grwp Trysorau, gan fod llawer o waith tynnu lluniau angen ei wneud, ac eglurodd ei fwriad i wneud cais i Ffyniant Bro am arian, a gofynnodd am sêl bendith y Pwyllgor i wneud hyn, gan fod y cais yn cael ei wneud yn enw’r Pwyllgor Rheoli. Cytunwyd i Celt wneud y cais.

Apêl am gyfraniadau i’r bwrdd gwerthu
Gwnaed apêl gan Ann am eitemau ar gyfer bwrdd gwerthu’r Neuadd.

Adloniant i’r dyfodol
Adroddodd Carwyn ei fod yn parhau i chwilio am adloniant at y dyfodol ac roedd wedi ceisio cael ‘Pedair’ i gynnal noson tuag adeg y Pasg flwyddyn nesaf. Hefyd roedd am gysylltu ag Elin Fflur.

Roedd yn fwriad gan Grwp Trysorau Talsarnau i drefnu sgwrs gan Jess John o’r Parc Cenedlaethol ym mis Mawrth i son am enwau hen fythynnod a ffermdai yn yr ardal.

Hefyd roedd Carwyn wedi trefnu sgwrs ar ‘Goed Cadw Llenyrch’ gan Kirsten Manley ar 5 Chwefror, a gobeithir cael sgwrs hefyd gan Eifion Lewis am Bwerdy Maentwrog yn ystod 2024.

Y ‘Square Reader’
Yn dilyn yr esboniad gan Carwyn am y peiriant yma, bu Margaret yn y banc i wneud ymholiadau ynglyn â’r costau bancio a deallodd ei fod yn dibynnu ar pa gwmni sy’n cyflenwi’r peiriant, gan fod pob cwmni’n wahanol. Bydd rhaid cael gwybodaeth pellach gan y cwmni dan sylw. Un peth cadarnhaol yw bod y cwmni yn hel y pres i gyd ac yn trosglwyddo’r cyfanswm i gyfrif y Neuadd ar ddiwedd y dydd. Un swm felly fydd yn y banc. Pwysleisiwyd ei fod yn bwysig i gadw bob derbynneb er mwyn gallu cytuno’r swm yn y banc ar ddiwedd y dydd a bydd rhaid cofio hyn pan mae’r peiriant yn cael ei ddefnyddio.

Cerdyn Debyd/Credyd
Nid yw hyn mor hawdd. Fe fydd rhaid i’r Pwyllgor ei drafod a’i basio a phenderfynu pwy sy’n cael y cerdyn, ac fe fydd rhaid anfon copi o’r cofnodion hyn i’r banc. Dim ond un person sydd wedi’i enwi ar y ‘mandate’ sydd â’r hawl i gael y cerdyn; mae Margaret wedi cael y ffurflenni perthnasol i’w cwblhau pan fydd y Pwyllgor wedi penderfynu pwy.

Hysbysebu digwyddiadau
Eglurodd Celt y bydd modd hysbysebu yr holl ddigwyddiadau ar Safle We newydd Talsarnau pan agorir y Wefan cyn bo hir.

 

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli nos Lun, 22 Ionawr 2024 am 7.30 o’r gloch.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 20.40.

 

 

Cadeirydd : ……………………………..

Dyddiad : ……………………………..