Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cofnodion Pwyllgor Rheoli'r Neuadd Hydref 2023

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED TALSARNAU
GYNHALIWYD NOS LUN, 23 HYDREF 2023

Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Margaret Roberts, Ann Jones
Anwen Roberts, Eluned Williams, Siriol Lewis, Gwenda Griffiths, Colin Rayner
Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Mark Jones, Mai Jones (13)

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Betsan Emlyn, Celt Roberts, Gwion Owens ac Eirlys Williams.

Hefyd, roedd Meinir Jones yn dymuno ymddiswyddo o’r Pwyllgor gan ei bod yn anodd iddi ddod oherwydd oriau gwaith – yn gweithio bron bob nos Lun. Ond eglurodd ei bod yn barod i gynorthwyo mewn achlysuron yn y Neuadd. Diolchwyd i Meinir am ei chymorth yn clirio gweddill deunyddiau’r Cylch Meithrin o Ystafell y Gloch.

Cyflwynodd y Cadeirydd Gofnodion Cyfarfod 25 Medi a chytunwyd i dderbyn rhain yn gywir.

Materion yn codi
Gwaith addurno yn y Neuadd
Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch mawr i Colin Rayner a fu’n peintio Ystafell y Gloch (gyda chymorth ei wraig Cath) ac i’w fab Haydn am beintio yr Ystafell Snwcer. Roedd y mannau yma wedi eu gweddnewid yn llwyr ac yn edrych llawer gwell. Diolchwyd hefyd i Alan Rayner am osod rhai teils carped newydd yn Ystafell y Gloch – a hyn eto wedi llwyddo i wella edrychiad yr ystafell.

Grant y Grid Cenedlaethol
Adroddwyd bod y grant wedi cyrraedd o’r diwedd!

System gwresogi’r Neuadd
Cyflwynodd Sion adroddiad ar ei gyfarfod gyda chynrychiolydd o Gwmni ‘Magna Renewables’
dydd Gwener, 29 Medi yn cynnig system wresogi newydd i’r Neuadd. Newid o olew i ‘air source’, ni fyddai angen newid y rheiddiaduron i gyd - ond y rhai yn y brif ystafell ac Ystafell y Glolch. Bydd y Cwmni yn anfon pris maes o law i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Gwaith adnewyddu
Yn anffodus, nid oedd Cwmni Wigglesworth wedi dechrau ar y gwaith adnewyddu a mynegwyd pryder mawr am hyn. Cytunwyd i gysylltu ag Iwan Morgan eto.

Y drain o gwmpas y tanc olew
Deallwyd bod hwn wedi cael ei glirio o’r diwedd.

Glanhawr newydd
Roedd Margaret wedi cael peiriant glanhau carped dipyn cryfach i lanhau ardaloedd eang y Neuadd.

Hysbysfwrdd newydd
Anfonwyd neges at Annwen Hughes ynglyn â phrynu hysbysfwrdd newydd tebyg i’r un sy tu allan i Siop y Morfa yn Harlech. Derbyniwyd gwybodaeth gan Annwen am y pris ac addewid y byddai’r Cyngor Cymuned yn trafod ein cais am help tuag at y costau yn eu cyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd.

Gwresogi Ystafell Prifathro yr Ysgol Gynradd
Ni chafwyd gwybodaeth pellach gan yr Ysgol Gynradd na’r Sir ynglyn â’n gohebiaeth gyda Gwion Owens yn ceisio am eu cefnogaeth i ddatrys y broblem ynglyn â gwresogi Ystafell y Prifathro. Eglurodd Gwion hefyd nad yw’n siwr y gall yr Ysgol anfon cynrychiolydd ar y Pwyllgor bellach gan ei fod ef wedi symud i swydd newydd a bod y ferch benodwyd yn ei le fel Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Talsarnau, gyda theulu ifanc ac na fyddai disgwyl iddi ddod i gyfarfodydd gyda’r nos. Ond roedd Gwion yn barod i’w rhyddhau pe byddai gennym gyfarfod yn ystod y dydd.
Cytunwyd i awgrym y Cadeirydd iddo geisio cysylltu gyda staff y Sir, gyda help Gwion, ac os na lwyddai gyda hynny, i gysylltu gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen i geisio ei gymorth ef.

Trip i Lerpwl
Deallwyd bod ychydig o le ar ôl ar y bws i fynd i Lerpwl dydd Sadwrn, 18 Tachwedd.

Atyniadau yn y Neuadd
Atgoffodd Carwyn bawb o’r sgwrs gan Bid Webb o Brifysgol Bangor nos Lun, 13 Tachwedd. Y gost fydd £3.00 y pen, a bydd paned a bisged ar gael ar y diwedd.
Hefyd noson gyda Steve Eaves a’r Band – nos Sadwrn, 25 Tachwedd. Tocynnau ar gael gan Carwyn, yn y Y Ship, ac yn y Neuadd – pris £10.00.

Ffair Nadolig
Cafwyd addewid gan Eirlys Williams y byddai’n rhoi raffl o £20.00 fel gwobr i’w wario mewn siop nwyddau yn Harlech, ac roedd hefyd yn barod i ofalu am werthu raffl ar noson y Ffair. Cytunwyd i gynnal Pwyllgor Bach i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer y Ffair, yn yr Ystafell Adnoddau, nos Fawrth, 21 Tachwedd am 7.00 o’r gloch.

Materion eraill
Gwresogi yn ystod y dydd
Mynegodd Margaret ei bod yn bryderus ynglyn â gwresogi’r neuadd yn ystod y dydd, pan nad oedd y Gofalwr ar ddyletswydd. Gan mai drwyddi hi roedd yr adeilad yn cael ei logi, roedd yn rhaid iddi hi ddod i’r Neuadd i roi y gwres ymlaen ar gyfer unrhyw logwr. Gobeithir y bydd ateb buan i’r broblem.

Cronfa Grymuso Gwynedd
Roedd Celt wedi derbyn gwybodaeth drwy e-bost gan Menteer Môn yn son am y posibilrwydd o gael arian gan y Gronfa yma. Wedi darllen y neges i’r aelodau, cytunwyd i Celt gario ‘mlaen, os yn fodlon, i wneud cais am gymorth o’r Gronfa.

Glanhad arbennig i garped Ystafell y Gloch
Teimlwyd bod angen i’r teils carped gael glanhad arbennig gan gwmni proffesiynol, yn enwedig ar ôl i’r ystafell gael ei phaentio’n lân a thaclus. Cytunwyd i wneud hyn ar ôl i’r gwaith o osod drysau newydd gael ei gwblhau. Cytunodd Colin i drefnu’r glanhau.

Sgwrs yn y flwyddyn newydd
Adroddodd Carwyn ei fod yn ceisio trefnu noson yn y flwyddyn newydd i gael sgwrs am Bwerdy Maentwrog gan Eifion Lewis. Mwy o fanylion i ddilyn.

Disgo yn yr Ysgol
Eglurodd Sion bod yr Ysgol wedi gofyn am gael benthyg offer disgo’r Neuadd ar gyfer eu noson Calan Gaeaf, nos Iau, 26 Hydref. Bydd Sion yn gyfrifol am yr offer a chytunwyd i’r trefniant.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli nos Lun, 27 Tachwedd 2023 am 7.30 o’r gloch.

Daeth y cyfarfod i ben am 20.35.
Cadeirydd :………………………………

Dyddiad : ……………………………….