Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR RHEOLI NEUADD GYMUNED
TALSARNAU GYNHALIWYD NOS LUN, 25 MEDI 2023

 

Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Anwen Roberts, Ann Jones
Eluned Williams, Gwenda Griffiths, Siriol Lewis, Betsan Emlyn, Mai Jones
Celt Roberts, Colin Rayner, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts. (13)

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Gwion Owens, Margaret Roberts, Mark Jones, Eirlys Williams a Meinir Jones.

Croesawyd bawb i'r cyfarfod gan y Cadeirydd. Roedd copi o gofnodion y cyfarfod diwethaf ar 24 Gorffennaf wedi'u hanfon at bawb a derbyniwyd rhain yn gywir.

Materion yn codi
Cyfansoddiad y Neuadd
Anfonwyd copi o'r Cyfansoddiad at yr aelodau ac roedd pob aelod yn barod i'w dderbyn a'i fabwysiadu y noson yma.

Grant gan y Grid Cenedlaethol
Nid oedd Margaret wedi derbyn y grant o £20,000 addawyd gan y Grid Cenedlaethol, i fyny at 15 Medi; roedd Celt wedi cysylltu â hwy ac wedi deall iddynt hwythau gael problemau gweinyddol oedd yn gyfrifol am yr oedi, ond cafodd addewid y bydd yr arian yn dod yn fuan.

System gwresogi'r Neuadd
Gan na chafwyd ymateb gan y cwmni cyntaf i'r Cadeirydd gysylltu â hwy, roedd Sion yn cyfarfod cwmni arall yn y Neuadd bore Gwener, 29 Medi i gael gwybodaeth am system gwresogi newydd.

Gwaith adnewyddu yn y Neuadd
Nid oedd Cwmni Wigglesworth wedi dechrau ar y gwaith adnewyddu hyd yma a phenderfynwyd cysylltu ag Iwan Morgan er mwyn ei atgoffa bod amodau gyda'r grant y byddwn yn ei dderbyn a bod rhaid dechrau ar y gwaith yn fuan. Bydd Mai yn anfon neges e-bost ato yn egluro hyn a gofyn iddo ddechrau ar y gwaith mor fuan â phosib.

Gwerthiant yn y Neuadd yn ystod mis Awst
Cafwyd adroddiad gan Gwenda bod y gwerthiant wedi bod yn llwyddiannus iawn - ac wedi cyrraedd cyfanswm o £920 gyda £41 arall i'w dalu i mewn. Diolch i aelodau'r Pwyllgor fu'n helpu yn ystod y mis a diolch arbennig i Mari Williams, a fu yno gydol y penwythnosau, ac i Geoff, ei brawd yng nghyfraith, a'i wraig Ann, am gludo’r gweddill o'r Ystafell Adnoddau i Siop Mela yn Penrhyn ar ddiwedd y mis. Cytunwyd i anfon gair o ddiolch at Mari a Geoff.

Roedd Siop Mela hefyd wedi awgrymu i ni gysylltu â hwy i wneud cais am gefnogaeth ariannol a bydd Mai yn anfon llythyr atynt ar ran y Pwyllgor.

 

Materion Eraill
Y drain o gwmpas y tanc olew
Roedd Margaret wedi derbyn rhybudd gan Adrian Lumb, a fu'n rhoi gwasanaeth i'r foiler, y gall y drain o gwmpas y tanc olew fod yn achos tân, ac anfonwyd copi o'r neges at yr aelodau i gyd. Roedd Colin wedi siarad gyda Brymor, y Gofalwr, ac roedd ef yn mynd i glirio dipyn ar y tyfiant cyn rhoi chwynladdwr arno.

Prynu glanhawr gyda mwy o bwêr
Gwelwyd bod angen glanhawr cryfach i lanhau'r carped mewn ardaloedd eang o'r Neuadd. Mae’r
'Henry' yn gweithio'n iawn mewn ardal llai, ond bod rhai mannau angen glanhawr gyda mwy o bwêr ynddo. Wedi trafodaeth, cytunwyd i symud ymlaen i gael peiriant newydd pan ddaw Margaret yn ôl o'i gwyliau.

Yr hysbysfwrdd ar ochr y briffordd
Adroddwyd bod y goriad wedi torri yn y clo unwaith eto a hefyd bod y drws wedi mynd yn ddwl ac yn anodd gweld drwyddo, ac roedd gwir angen ei adnewyddu. Mae'r hysbysfwrdd ar gael i'w ddefnyddio gan y Cyngor Cymuned, yr Ysgol Gynradd a'r Neuadd Gymuned. Deallwyd bod bwrdd hysbysebu da tu allan i Siop y Morfa yn Harlech a fyddai'n addas i ni yma, a chytunwyd i gysylltu gydag Annwen Hughes, Clerc Cyngor Cymuned Talsarnau i ofyn a oes modd i'r Cyngor ein helpu gyda'r mater.

Cais am barti gyda Chastell Bownsio
Roedd cais wedi'i dderbyn gan y Clerc Llogi am gael cynnal parti penblwydd gyda Chastell Bownsio. Anfonwyd y ffurflenni llogi arbennig, i'w dychwelyd at Carwyn, ond ni chafwyd ymateb hyd yma.

Grwp Ti a Fi
Eglurodd Mai bod y grwp yma wedi dechrau ar fore dydd Gwener, ers bythefnos yn y Neuadd, a bod nifer dda o blant bach a'u mamau wedi mynychu. Yn anffodus, roeddynt yn gorfod defnyddio'r Neuadd fawr gan fod llawer o offer y cyn Cylch Meithrin yn parhau yn ystafell y gloch. Cytunodd Sion i geisio help gan Meinir, un o gyn-ofalwr y Cylch, i brysuro clirio'r ystafell o'r holl offer, gan bod ei gwir angen ar y grwp Ti a Fi. Hefyd bydd angen yr ystafell i gyfarfodydd neu bwyllgorau eraill.

Cais gan Brifathro'r Ysgol Gynradd
Adroddodd Sion bod Gwion Owens yn gofyn am ein cefnogaeth fel Pwyllgor i geisio symud
ymlaen gyda'r mater o ddatrys y broblem sy'n bodoli gyda gwresogi ystafell y Prifathro, gan mai'r Neuadd sy'n talu'r costau yma. Bydd yr ysgrifennydd yn anfon neges ato i geisio helpu pethau symud ymlaen.

Y disgo gyda 'Bwncath'
Adroddwyd bod y noson ar 1 Medi wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda nifer dda o ieuenctid wedi mynychu'r achlysur. Gwnaed elw o £1,000 a rhannwyd yr arian rhwng y Neuadd a'r Ysgol Gynradd fel a ganlyn : prynwyd offer trydanol gwerth £400 + rhodd o £100 i'r Neuadd, a rhoddwyd £500 i'r Ysgol Gynradd. Deallwyd bod y grwp poblogaidd yma wedi'i llogi at y flwyddyn nesaf eto. Diolchwyd i Sion a Carwyn am wneud y trefniadau a gofalu am y noson.
Ystafell Snwcer
Eglurodd Sion y bydd y snwcer yn ail-ddechrau ar nos Wener, 10 Tachwedd.

Cynnal a chadw'r system CCC
Eglurodd Colin bod angen adnewyddu'r tâl misol o £12.00 o fis Medi at gynnal a chadw'r system. Bydd Margaret yn talu hwn pan ddaw nôl o'i gwyliau.

Batris y diffibrilwyr
Adroddodd Siriol ei bod wedi adnewyddu'r batris yn y pedwar diffibriliwr a bod popeth yn gweithio'n iawn. Diolchwydd iddi am ofalu am hyn.

Trip i Lerpwl
Eglurodd Betsan Emlyn ei bod yn trefnu trip arall i Lerpwl ar ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd. Diolchodd hefyd am gael benthyg ychydig o gadeiriau'r Neuadd at 'Twrw Talsarnau' ym mis Gorffennaf.

Atyniadau yn y Neuadd
Adroddodd Carwyn y bydd Steve Eaves a'i Fand yn perfformio yn y Neuadd nos Sadwrn,
25 Tachwedd; hefyd trefnwyd sgwrs ar ‘Defnyddio coed, coedtir a choedwig i leddfu llifogydd trwy reoli llifogydd yn naturiol’ gan Bid Webb nos Lun, 13 Tachwedd, a sgwrs am ‘Goed Llenyrch’ gan Kirsten Manley nos Lun, 5 Chwefror 2024.

Ffair Nadolig
Cytunwyd i gynnal Ffair Nadolig flynyddol y Neuadd nos Iau, 30 Tachwedd i ddechrau am
6.30 o'r gloch. Gwneir y trefniadau terfynol yn y Pwyllgor nos Lun, 27 Tachwedd.

Dyddiad y Pwyllgor Rheoli nesaf
Nos Lun, 23 Hydref 2023.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 20.40.

 

 


Cadeirydd : ................................................
.
Dyddiad : ...................................................