Mae'r Ystafell Adnoddau / Pwyllgora yn cynnwys dau gyfrifiadur PC. Mae tri gliniadur yn rhan o'r cyfanwaith ynghyd â thri camera er mwyn gallu gwneud gwaith recordio a chreu fideos ar wahanol agweddau o fywyd yr ardal. Mae system Wifi yn cysylltu'r cyfan â'r wê. Yn rhan o'r adnoddau hefyd mae taflunydd lluniau digidol a sganiwr. Mae'r ystafell hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer pwyllgora.