Yn mesur 16m x 10m – gyda 160 o gadeiriau i gyngerdd a 100 i eistedd wrth fyrddau. Addas i gyngherddau. Acwstics ardderchog. Mae llwyfan symudol hwylus ar gael a phiano safonol. Addas ar gyfer darlithoedd, cyflwyniadau, gwasanaethau, brecwast priodasau, te angladdau, a phartion plant. Maint y neuadd yn ei gwneud yn addas ar gyfer nifer o chwaraeon ond rhaid i blant fod o dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol. Mae gofyn gwneud trefniadau ymlaen llaw.
Grant
Grant Y Loteri Genedlaethol
Datganiad i’r wasg
I’w gyhoeddi ar unwaith
Mae Neuadd Gymuned Talsarnau a’r Cylch yn parhau i gefnogi’r gymuned,
diolch i arian y Loteri Genedlaethol
Mae’r Neuadd Gymuned yn Nhalsarnaua’r cylch yn helpu eu cymuned i addasu,
adfer a ffynnu, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, trwy gynnal gweithgareddau a
hybu bywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.
Derbyniodd Neuadd Gymuned Talsarnau a’r Cylch £4,000 gan Gronfa Gymunedol
y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Celt Roberts aelod o Bwyllgor Rheoli’r Neuadd,
“ Mae derbyn cefnogaeth ariannol i gynnal a datblygu neuaddau cymunedol yn gwbl angenrheidiol
er mwyn sicrhau lles a buddiannau trigolion.”
I ddarganfod mwy am ymgeisio am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi eich cymuned, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk/cymru
Diwedd
Gwybodaeth bellach:
Celt Roberts
01766 770454 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.