Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Cylch Meithrin

Mae'r Cylch Meithrin yn cyfarfod bob bore o'r wythnos rhwng dydd Llun a Dydd Gwener. Mae'r Cylch Meithrin yn rhoi cyfle i blant bach ddod at ei gilydd i gyd-fyw a chymdeithasu mewn awyrgylch braf a chartrefol. Sonia a Meinir Jones sydd yn gofalu am y plant.

Cylch dau Lun

Mae'r plant yn cael ymuno wedi iddynt gyrraedd eu blwydd yn ddwy a hanner. Mae'r Cylch yn cyfarfod bob dydd am 9.00 ogb dan 1.00 y prynhawn. Maent yn cael cyfle i wneud nifer helaeth o weithgareddau a chael amrywiaeth da o brofiadau yng nghwmni ei gilydd. Mae'r Cylch hefyd yn rhoi cyfleon da iddynt glywed, chwarae a siarad yn naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg ac i'r plant bach hynny o gartrefi di-Gymraeg maent yn cael cyfle i godi'r Gymraeg yn naturiol a dod i gyfleu eu hunain mewn mwy nag un iaith mewn dim o dro.