Get in Touch: 07977325824     E-mail: colinrayner@msn.com 

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau Archebu Ystafell yng Nghanolfan Gymuned Talsarnau

Llogir y neuadd dan yr amodau canlynol:

1. Mae pob llogwr yn atebol am unrhyw ddifrod a wneir i’r adeilad, dodrefn, neu gyfarpar yn ystod cyfnod y llogi.

2. Rhaid talu’r pris llawn a ddangosir ar y ffurflen, am bob achlysur unigol, cyn dyddiad y llogi. Lle bo cyfnod o hurio dros nosweithiau’r gaeaf e.e., dosbarth neu grwp yn cyfarfod yn rheolaidd dros nifer o wythnosau, gellir talu’r swm i gyd am y llogi ar ddiwedd y cyfnod.

3. Gofynnir i bawb sy’n llogi unrhyw ystafell yn yr adeilad, adael y lle yn lân a thaclus ar ôl ei defnyddio.

4. Ni chaniateir coginio bwyd yng nghegin y neuadd-dim mwy na 6 yno ar unrhyw bryd.

5. Ni chaniateir 'Castell Sboncio' nac unrhyw offer tebyg heb wneud trefniadau ymlaen llaw gyda'r clerc llogi.

6. Ar bob achlysur, dylai’r llogwr arwyddo’r cytundeb yma cyn y digwyddiad.

7. Nid oes gan y Neuadd drwydded i werthu alcohol.