Stori sydd yma am drychineb ddigwyddodd yn 1875 pan gollwyd bywydau pan ddymchwelodd fferi oedd yn croesi rhwng Porthmadog a Thalsarnau. |
|
Ymweliad Merched y Wawr Talsarnau a'r Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth | |
Diwydiant Torri Tywyrch
Diwydiant oedd at draeth Talsarnau rhwng !953 - 1962 yn cyflenwi tywyrch i feysydd bowlio, caeau pel droed ac ati. |
|
0 |
Golwg byr sydd yma ar un o'n capeli sydd wedi ei leoli mewn treflan fechan uwchben pentref Talsarnau. Mae'n fan tawel braf a does unlle gwell ar ddiwrnod o wanwyn a'r adar bach yn canu. Cyflwynir y pwt ffilm gyda swn hyfryd Cor Meibion Prysor yn canu "Dyrchefir Fi" yn gefndir. |
Ffilm fer gan Grwp Trysorau Talsarnau yn disgrifio ffordd unigryw o ddal lledod (flatfish) ar y Traeth Bach pan roedd y llanw wedi mynd lawr. Roedd y pysgotwyr yn defnyddio tryfar (harpoon) i ddal y pysgod. Mae'r stori yn dilyn hanes gan Tomi Gwilym Williams a oedd yn arbenigwr ar y math yma o bysgota |
|
Eglwys Llanfihangel-y-Traethau Hanes byr o Eglwys Llanfihangel-y-Traethau wedi ei ffilmio, golygu a'i chynhyrchu gan Grwp Trysorau Talsarnau |
|
Eglwys Llanfihangel-y-Traethau (with subtitles) A short history of the Church at Llanfihangel-y-Traethau, filmed, edited and produced by Grwp Trysorau Talsarnau |
|
Lasynys | |
Ceiau Afon Dwyryd Hanes y ceiau llechi a adeiladwyd ar lan yr afon Dwyryd lle bu llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog yn cael eu llwytho ar gychod hwylio i'w trosglwyddo i longau wedi eu hangori ym Mae Tremadog ar gyfer allforio ledled y byd |
|
Bellach does yr un siop ym mhentref Talsarnau. Yr hyn sydd yma ydy golwg yn ol i gyfnod 1930 /1940au pan oedd nifer da o siopau yma. Mrs Frances Griffiths sydd yn cofio ac yn adrodd yr hanes pan oedd anghenion hanfodol teuluoedd i gyd i'w cael yn lleol. |