Wrth ddathlu 20 mlynedd o weithgarwch yn Neuadd Gymuned Talsarnau yn 2022, braf cael edrych yn ôl ar y diwrnod arbennig hwnnw pan agorwyd y neuadd am y tro cyntaf. Detholiad o luniau dynnwyd gan Anwen Roberts ydy'r rhain. Gobeithio y dont a gwên ac atgofion braf yn ôl ichi.
Y Neuadd Fawr dan ei sang Cynulleidfa dda wedi dod ynghyd
Pobl wedi dod o bell ac agos Pawb i'w gweld yn mwynhau'r achlysur.
Braf iawn oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn rhan o'r digwyddiad. Gerallt Rhun, y prifathro yn cyflwyno parti canu Yr Ysgol Gynradd.
Sian Morgan yn cyflwyno rhoddion i Mr Morris Jones a Mrs Nelta Roberts. Roedd llyfr ymwelwyr i'w lenwi wrth y drws.
Mae debyg bod Ian ac Wmffra yn cael hanesyn doniol gan Gwynfor Hefin, Geraint ac Emrys yn hel atgofion.
Y plant wrth eu boddau yn rhoi cynnig ar y cyfrifiaduron Dydy'r plant yma ddim dau funud yn dod i'w dallt hi!