Ychwaneg o luniau o'r diwrnod arbennig hwnnw yn Ebrill 2002 pan agorwyd y Neuadd Newydd - Neuadd Gymuned Talsarnau a'r Cylch a phawb yn llawenhau ac yn mwynhau'r diwrnod. Y lluniau eto gan Anwen Roberts.
Y plant wrth eu boddau yn cael rhoi cynnig ar y cyfrifiaduron. Problem? Pa broblem? Mae nhw'n hwyl!
Dathlu, - ar bob cyfri, ond mae'n rhaid i rywun weithio! Brynmor yn ei elfen.
Mae'r ferch fach yma'n ugain oed erbyn hyn! Y pedwar gyda'i gilydd yn barod i agor y neuadd yn swyddogol.
Elin yn rhoi cyflwyniad ar y delyn. Llais hyfryd Emma.
Cafwyd cyfle i gyfarfod a sgwrsio รข hen ffrindiau. Margaret a Dic yn rhoi'r byd yn ei le.
Cyfle da i gael sgwrs. Paned ar achlysur fel hyn yn dderbyniol iawn.