Dyma rai lluniau o gyfnod aur byd snwcer yn Nhalsarnau - a hynny yn yr Hen Neuadd. Byddai cystadleuthau'n cael eu cynnal yn rheolaidd a gornestau cyson ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Braf oedd gweld chwaraewyr o bob oed yn cymeryd rhan a phawb yn gwneud yn dda gyda'i gilydd ta beth oedd eu hoedran.
Dewi Williams Garej ar y bwrdd isaf. Dic Chollwyn (Richard Davies) yn gobeithio cael y ddu ar ôl y goch!
Noson Gwobrwyo Noson gwobrwyo eto
Colin Rayner yng nghwmni un o fawrion y cyfnod Colin Rayner gyda Jimmy White - un o sêr mawr y cyfnod.
Colin Rayner yn cyflwyno tlws i fachgen talentog. Colin Rayner yn cyflwyno tlws i Dylan Aubrey.
Rydan ni'n cyfleu ein diolch i Colin Rayner am ei frwdfrydedd a'i gyfraniad yn datblygu'r gêm yn lleol dros nifer o flynyddoedd. Ef, heb amheuaeth sydd wedi hybu a hyrwyddo datblygiad snwcer, nid yn unig yn Nhalsarnau ond yng Ngwynedd a Gogledd Cymru yn gyffredinol.Bu i'r hen a'r ifanc elwa o'i ymdrechion ac rydym yn ei gymeradwyo am ei wasanaeth. Diolch iti Colin.